Academi gerdd wedi ei sefydlu i blant blwyddyn 1 – 6 yw Academi Gerdd y Lli. Prif bwriad yr Academi yw i magu hyder a sicrhau cyfleuoedd i blant canolbarth Cymru i ganu a pherfformio.
Wedi llwyddiant ysgubol yr Academi blwyddyn diwethaf mae’r Academi am rannu mewn i ddau dosbarth, Academi Iau Gerdd y Lli a Chôr Academi Gerdd y Lli.
Plant Blwyddyn 1 - 2
Nos Fercher 5yh – 6yh
Lleoliad: Neuadd Ysgol Penweddig
Prif bwriad Academi Iau Gerdd y Lli yw i godi hyder a darparu cyfleuoedd i’r plant canu a perfformio.
Bydd y sesiwn 1af yn cychwyn Ebrill 18fed
6 sesiwn am £35
Plant Blwyddyn 3 - 6
Nos Fercher 6yh – 7yh
Lleoliad: Neuadd Ysgol Penweddig
Côr plant newydd wedi ei leoli yn Aberystwyth – Prif nod y côr yw i ddarparu hyfforddiant lleisiol a chyfleuoedd i blant berfformio a chystadlu yng Nghymru a thu hwnt!
Bydd y sesiwn 1af yn cychwyn Ebrill 18fed
6 sesiwn am £35
Mae Greg yn adnabyddus ar hyd a lled Cymru fel unawdydd a hyfforddwr corau llwyddiannus. Mae wedi hyfforddi nifer o unigolion, partion a chorau sydd wedi ennill gwobrau ar lwyfanau Cenedlaethol.
Mae’n ogystal yn ennillydd Cenedlaethol a Rhyngwladol ynghyd â ennill y Brif Wobr Lady Herbet Lewis ar ddau achlysur.
Mae Greg yn arweinydd Côr Ger y lli ynghyd â chorau Sir Uwchradd a Cynradd Ceredigion.
Mae Greg yn cynnig gwersi lleisiol ac wedi hyfforddi enillwyr Cenedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd â’r Eisteddfod Genedlaethol.
Os hoffwch fwy o wybodaeth am wersi lleisiol cysylltwch â academigyl@gmail.com.